Mae sioe newydd o’r enw The Great Big Welsh Sketch Show ar y we wedi cael ei beirniadu’n hallt ar Twitter am ei agwedd tuag at y Gymraeg.

Nod y sioe sydd wedi ei greu gan Sean Rhys-James a nowinaminuteproductions yw darparu’r “sgetsus gorau sydd gan Gymru i’w cynnig”, yn ôl eu tudalen ar y we.

Ond mae’n ymddangos mai gwneud hwyl am ben yr iaith Gymraeg y mae’r sgets ddiweddaraf o’r enw ‘Creating the Welsh Language’, sydd wedi cael ei gwylio 5,202 o weithiau ar wefan gymdeithasol Twitter.

Ynddi, mae’r ddau actor yn ymddangos yn trin termau Cymraeg fel rhai sydd wedi cael eu gwneud i fyny – neu wedi eu dwyn o’r Saesneg.

Mae’r ymatebion i’r sgets yn ymosod ar yr agwedd hon, gan gyfeirio at ddiffyg ymwybyddiaeth y cynhyrchwyr am y Gymraeg a ieithoedd eraill.

Dyma linc i’r sgets, ac i’r ymateb iddi ar wefan Twitter:

https://twitter.com/WelshSketchShow/status/1072828184364761090