Mae tad y ddynes o Benarth a fu farw ar ôl derbyn anafiadau difrifol ar drên ddechrau’r mis, wedi disgrifio’i ferch yn berson “prydferth ym mhob ffordd”.

Bu farw Bethan Roper ar drên a oedd yn teithio i gyfeiriad Bryste, a hynny ar ôl treulio’r diwrnod yn siopa Nadolig yng Nghaerfaddon ar Ragfyr 1. Mae’r heddlu’n credu iddi farw ar ôl pwyso’i phen allan trwy ffenest y trên.

Roedd y ferch 28 oed yn weithiwr elusennol, a bu’n gweithio i Gyngor Ffoaduriaid Cymru, Cartrefi Cymru, Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru a Sobey’s Vintage Clothes Shop.

Roedd hefyd yn gadeirydd Sosialwyr Ifanc Caerdydd, a bu’n ymgyrchydd brwd dros hawliau ffoaduriaid.

Teyrnged

“Roedd gan Bethan rwydwaith agos o ffrindiau yr oedd hi’n caru treulio amser gyda nhw yn mynd i wyliau cerddorol a chlybiau er mwyn siarad a chwerthin,” meddai ei thad, Adrian Roper, mewn datganiad.

“Fe deithiodd hi’r byd am chwe mis hefyd gyda’i ffrind agos, Lizzy, gan wneud mwy o ffrindiau ledled y byd…

“Mae pawb oedd yn nabod Bethan wedi cael y fraint o wneud hynny,” meddai wedyn. “Roedd hi’n brydferth ym mhob ffordd.

“All ein poen ddim bod yn finiocach… ond dw i’n gwybod y bydd ei daioni a’i hysbryd llawn yn fyw yn ein calonnau a’n gweithredoedd.”

Mae disgwyl i gwest i’w marwolaeth agor yr wythnos nesaf.