Mae Heddlu Cymru yn dweud iddyn nhw ddal 28 o bobol yn yfed a gyrru rhwng Rhagfyr 1 a 11 – bron iawn i dri y dydd.

Mewn neges ar wefan gymdeithasol Twitter, mae’r llu yn ceisio apelio at bobol i feddwl yn bellach na pharti Nadolig wrth fynd tu ôl i’r olwyn dros gyfnod yr ŵyl.

“Mae cael eich dal a’ch cael yn euog yn newid eich bywyd,” meddai llefarydd. “Rydan ni’n gofyn i bobol feddwl am y peth.”

Yn ôl yr heddlu, mae’r gost o dorri’r gyfraith yn golygu colli trwydded, a gorfod talu hyd at 115% yn fwy o ran yswiriant car pan yn dychwelyd i fyd gyrru.

“Fedrwch chi fforddio’r gost?” meddai’r heddlu wedyn.