Mae cleifion canser yng Nghymru bellach yn gallu derbyn therapi proton ar y Gwasanaeth Iechyd, ar ôl i ganolfan driniaeth yng Nghasnewydd dderbyn caniatâd gan y corff sy’n gyfrifol am fyrddau iechyd y wlad.
Canolfan Ganser Rutherford De Cymru, a agorwyd ym mis Ebrill, oedd y gyntaf yng ngwledydd Prydain i gynnig triniaeth o’r fath i gleifion, ond tan nawr dim ond cleifion preifat oedd yn gallu manteisio ar ei gwasanaeth.
Ddydd Mawrth (Rhagfyr 11), fe benderfynodd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru y byddai’r ganolfan bellach yn cynnig y gwasanaeth trwy’r Gwasanaeth Iechyd.
Mae disgwyl i’r ganolfan, sy’n cael ei redeg gan Proton Partners International, ddechrau cynnig y driniaeth i gleifion ar unwaith.
Arloesi
Y ganolfan yng Nghasnewydd yw’r ail yng ngwledydd Prydain i gynnig therapi proton y Gwasanaeth Iechyd, gan ddilyn y Ganolfan Ganser Christie ym Manceinion a fydd yn trin y claf cyntaf yn Lloegr yr wythnos nesaf.
“Dydy therapi proton ddim yn ddatrys pob math o ganser,” meddai’r Athro Roger Taylor o’r ganolfan.
“Ond rydym wedi gweld ymhle y gallai fod o fudd mewn meysydd fel tiwmor ar yr ymennydd neu ganser y cefn neu’r pen a’r gwddf.
“Bydd gweithio gyda’r Gwasanaeth Iechyd yn golygu bod gan gleifion yng Nghymru bellach yr opsiwn i gael triniaeth yn nes adref.”