Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cymeradwyo cynlluniau gwerth £7.4m i godi ysgol Gymraeg newydd yn y Barri.

Fe fydd lle yn yr ysgol i 420 o ddisgyblion, a 96 o lefydd dosbarth meithrin.

Fel rhan o’r cynlluniau, bydd Ysgol St Baruc, sydd â lle i 210 o ddisgyblion ar hyn o bryd, yn symud i adeilad newydd sbon.

Fe fu cynnydd o fwy na 25% yn y galw am lefydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg dros y deng mlynedd diwethaf, ac mae disgwyl i’r galw barhau i gynyddu gyda datblygiad tai newydd ar y ffordd.

Gallai targed Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg hefyd gynyddu’r galw am addysg Gymraeg yn yr ardal honno.

Galw

“Mae addysg cyfrwng Cymraeg yn dod yn fwyfwy poblogaidd ac mae wedi gweld twf sylweddol ers i Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg agor yn 2000,” meddai John Thomas, arweinydd y cyngor sir.

“Mae angen i’r Cyngor gynllunio ei darpariaeth ysgol yn unol â hyn.

“Bydd ysgol gynradd Gymraeg newydd ger y Glannau yn dileu’r angen i nifer o ddisgyblion a rhieni deithio ar draws y dref i’r ysgol bob dydd.

“Ochr yn ochr ag ailgynllunio ardaloedd dalgylch ysgolion mewn rhannau eraill o’r Barri, bydd hyn yn arwain at gynnydd yn nifer y llefydd mewn ysgolion eraill.”

Ysgol St Baruc

Mae gan Ysgol St Baruc brif adeilad Fictorianaidd a bloc o ddau ddosbarth a gafodd ei adeiladu yn ystod y 1980au.

Does dim gobaith o ragor o waith adeiladu ar y safle presennol am fod tir yr ysgol ar lethr.

Dydy’r ystafelloedd dosbarth presennol ddim ychwaith yn ddigon mawr i gynnal y dosbarthiadau, ac mae cyfleusterau cinio’r ysgol gynradd gyfagos hefyd yn cael eu defnyddio am nad oes lle cinio yn yr ysgol.

Pe bai cabinet y Cyngor yn cymeradwyo’r cynlluniau ddydd Llun nesaf (Rhagfyr 17), fe allai ymgynghoriad gael ei gynnal rhwng Ionawr 8 a Chwefror 22.