Mae dyn o Abertyleri wedi’i wahardd rhag cadw anifeiliaid am dair blynedd ar ôl iddo fethu â darparu’n ddigonol ar gyfer ei 24 o gathod.

Fe blediodd Timothy Worel o Llanhiledd yn euog yn Llys Ynadon Casnewydd ddoe (dydd Mawrth, Rhagfyr 11) ar ail ddiwrnod yr achos.

Roedd yn wynebu’r cyhuddiad o fethu â sicrhau lles ei gathod a oedd yn cael eu cadw ganddo mewn tŷ yn Brithdir.

Yn ôl llefarydd ar ran yr RSPCA, roedd y cathod yn byw mewn amgylchedd a oedd yn “anghredadwy” o frwnt.

“Roedd maint y sbwriel a’r dom yn ofnadwy,” meddai llefarydd ar tan y gymdeithas gwarchod anifeiliaid. “Roedd yn anrhefn llwyr.

“Roedd yr arogl yn afiach, ac roedd hi’n siom na chafodd cymorth na chyngor eu dilyn, felly roedd y cathod hyn yn byw mewn baw.”

Yn ogystal â gwaharddiad o dair blynedd rhag cadw anifeiliaid, fe dderbyniodd Timothy Worel orchymyn i dalu £1,200 mewn costau.