Mae cyfnod Carwyn Jones yn Brif Weinidog Cymru wedi dod i ben ar ôl iddo wneud ei ddatganiad olaf yn y Cynulliad y prynhawn yma (dydd Mawrth, Rhagfyr 11).

Mae wedi bod wrth y llyw ers 2009, ac yn dilyn ei sesiwn olaf o Gwestiynau’r Prif Weinidog fe fydd yn anfon ei ymddiswyddiad i’r Frenhines.

Mae disgwyl i Mark Darkeford ei olynu yn Brif Weinidog, ac fe fydd pleidlais yn cael ei chynnal yn y Cynulliad ddydd Mercher i gadarnhau hynny.

Fe gafodd Mark Drakeford ei ethol yn arweinydd Llafur Cymru yr wythnos ddiwethaf.

“Braint”

Mewn araith gerbron Aelodau Cynulliad, fe ddywedodd Carwyn Jones mai “braint” oedd olynu “fy nghyfaill a’m mentor Rhodri Morgan” yn Brif Weinidog Cymru.

Ychwanegodd fod y cyfnod o naw mlynedd yn y swydd wedi bod yn brofiad “chwerw felys” iddo, a’i fod yn “teimlo tristwch wrth sefyll i lawr, ar y cyd â balchder am y gwaith sydd wedi ei gwblhau.”

Ymhlith yr hyn y mae Carwyn Jones yn falch ohono , meddai, yw’r ffaith bod Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad wedi derbyn mwy o bwerau a chryfhau’r broses o ddatganoli.

“Mae datganoli bellach yn sefydledig, nid dim ond mewn cyfraith, nid dim ond mewn ffaith, ond yng nghalonnau pobol Cymru,” meddai.

“Cyfnod heriol”

Fe wnaeth Carwyn Jones gydnabod bod y degawd diwethaf wedi bod yn “gyfnod heriol”, yn enwedig yn wyneb toriadau i gyllidebau a’r “mater bychan o Brexit.”

Ond mynnodd fod ei lywodraeth wedi gwneud cynnydd mewn addysg, gyda thros gant o ysgolion newydd wedi’u hadeiladu, a’r economi, wrth i filoedd o swyddi gael eu creu ar gyfer pobol Cymru.

Ychwanegodd fod yna fwy o fuddsoddiad wedi bod yn y Gwasanaeth Iechyd hefyd, sy’n golygu bod yna fwy o ddoctoriaid a nyrsys a gwasanaethau ar gael i gleifion.

“Fe wnaethon ni greu polisi i Gymru, nid i gyfryngau’r wasg yn Llundain,” meddai.

“Mae ein hyder a hunangred cynyddol, fel Llywodraeth ac fel gwlad wedi dod yn wyneb degawd hunllefus o lymder.

“Ond dydi’r un o’r polisïau na’r cyraeddiadau hyn yn bodoli ar wahân i’w gilydd. Maen nhw i gyd, yn fy marn i, yn cyfrannu at rywbeth y bydda i wastad eisiau i Gymru – tegwch a gobaith.”