Bu farw Bethan Roper o Benarth wrth deithio i Fryste ar Ragfyr 1 – ac mae’r heddlu’n credu iddi gael ei hanafu ar ôl rhoi ei phen allan trwy ffenest y trên.

Roedd y ferch 28 oed yn dychwelyd adref i dde Cymru ar ôl treulio’r diwrnod ym marchnad Nadolig Caerfaddon gyda ffrindiau. Hyd at ei marwolaeth, bu Bethan Roper yn gweithio i Gyngor Ffoaduriaid Cymru, ac fe raddiodd o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd yn 2013.

Roedd hefyd yn ymgyrchydd brwd ac yn gadeirydd y grŵp, Sosialwyr Ifanc Caerdydd.

Fe draddododd araith yn ystod digwyddiad yn y brifddinas yn gynharach eleni, gan dadlau bod hawliau ffoaduriaid i weithio a derbyn addysg yng ngwledydd Prydain yn cael eu hanwybyddu gan Lywodraeth Prydain.

Mae disgwyl i’r cwest i’w marwolaeth agor yn Llys Crwner Avon, Bryste.