Mae teulu Carl Sargeant yn dweud y byddai’n “sarhad go iawn” pe bai Carwyn Jones yn cael cynnig sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi ar ôl ei ymddeol o fod yn Brif Weinidog Cymru.

Mae Jack Sargeant, mab y diweddar Aelod Cynulliad, Jack Sargeant, yn galw ar arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, i beidio ag enwebu enw Carwyn Jones ar gyfer arglwyddiaeth tra bo cwestiynau ynghylch marwolaeth ei dad yn aros.

Mae disgwyl i Carwyn Jones gyflwyno’i ymddiswyddiad i’r Frenhines yn dilyn cyfres o gwestiynau yn y Cynulliad heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 11), gan ddod â chyfnod o naw mlynedd wrth y llyw i ben.

Mae disgwyl i Mark Drakeford, a gafodd ei ethol yn arweinydd newydd Llafur Cymru yr wythnos ddiwethaf, ei olynu’n Brif Weinidog Cymru.

“Gofidus”

Bu farw Carl Sargeant ar Dachwedd 7 y llynedd, ddyddiau yn unig ar ôl iddo gael ei ddiswyddo o Gabinet Llywodraeth Cymru tra oedd yn wynebu cyhuddiadau o gamymddwyn yn rhywiol tuag at ferched.

Yn ôl Jack Sargeant, a olynodd ei dad yn Aelod Cynulliad Alun a Glannau Dyfrdwy, mae’r awgrym y gallai Carwyn Jones dderbyn arglwyddiaeth ar ôl gadael Llywodraeth Cymru yn “ofidus”.

“All ddim byd fod yn fwy gofidus i deulu a ffrindiau Carl na chael gwybod y gallai’r fath fraint gael ei chyflwyno pan mae yna nifer o gwestiynau ar ôl i’w hateb ynghylch ymddygiad y Prif Weinidog,” meddai.

“Fe fyddai’n sarhad go iawn i’r rheiny sy’n dioddef ar ôl colli Carl. Os yw Jeremy Corbyn yn rhoi caniatâd i Carwyn Jones gael mynediad i Dŷ’r Arglwyddi, yna fe fyddwn mewn gofid.”

Cwestiynu’r cwest

Cafodd cwest i farwolaeth Carl Sargeant ei ohirio fis diwethaf, ac mae disgwyl iddo barhau yn y flwyddyn newydd.

Yn ystod y gwrandawiadau hynny, fe fydd Carwyn Jones yn cael ei alw eto i roi tystiolaeth gerbron y crwner.

Mae Jack Sargeant yn beirniadu gohirio’r cwest, gan ddweud bod yna “dactegau gohirio diangen” wedi cael eu defnyddio gan swyddfa’r Prif Weinidog.

Mae hefyd wedi cwestiynu a oedd yna gynllun i “sicrhau ei fod e [Carwyn Jones] allan o swydd cyn bod y cwest yn dod i ben.”