Mae mudiadau ac enwogion o Fro Morgannwg wedi llofnodi llythyr agored yn galw ar Gyngor Bro Morgannwg i sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yn y Barri.

Mae Ian ‘H’ Watkins o’r band Steps, a’r cyflwynwyr Caryl Parry Jones ac Angharad Mair ymhlith y rheiny sydd wedi arwyddo’r llythyr.

Mae disgwyl i adroddiad fynd gerbron cabinet y cyngor yr wythnos hon (Rhagfyr 12), gyda’r bwriad o gynnal ymgynghoriad ym mis Ionawr ar yr ysgol newydd a fydd yn cael ei hadeiladu yn sgil datblygiad tai sylweddol yn ardal y Glannau.

Yn ôl ymgyrchwyr, mae angen i aelodau o’r Cabinet “fanteisio ar gyfle euraid” o ran twf addysg Gymraeg yn y Barri, trwy ddynodi’r ysgol newydd yn un gyfrwng Cymraeg.

“Eiliad dyngedfennol”

“Byddai hyn yn caniatáu i Ysgol Sant Baruc gael ei adleoli i adeilad sy’n addas a phwrpasol ac yn sicrhau bod holl blant y Barri o fewn pellter cerdded ysgol gynradd Gymraeg, gan gynnwys plant Ynys y Barri, a hynny am y tro cyntaf erioed,” meddai’r llythyr.

“Bydd hyn hefyd yn gwneud cyfraniad mawr tuag at darged Llywodraeth Cymru 2030 i gynyddu lleoedd ysgol cyfrwng Cymraeg o draean.

“Dylai’r iaith Gymraeg fod yn elfen ganolog o ddatblygiadau tai newydd; mae hon yn eiliad dyngedfennol i’r Barri a bydd yn gosod cynsail arwyddocaol o ran datblygiadau trefol eraill ledled Cymru.

“Rydym yn eich annog yn frwd i achub ar y cyfle hwn.”