Fe fydd Nyth Cacwn, Con Passionate, Rhestr Nadolig Wil a Porc Pei ymhlith y detholiad o gyfresi poblogaidd a ffilmiau Nadolig a fydd ar gael ar wasanaeth “bocs-sets” newydd S4C.

Bydd y gwasanaeth newydd yn cael ei lansio ddydd Sadwrn (Rhagfyr 15), a bydd rhaglenni ar gael i’w gwylio ar S4C Clic am 150 diwrnod.

Dywed y sianel hefyd y bydd modd gwylio rhaglenni newydd ar S4C Clic cyn eu bod nhw’n cael eu darlledu ar y teledu am y tro cyntaf.

Yn ôl Owen Evans, Prif Weithredwr S4C, mae’r gwasanaeth newydd hwn yn “bwysig iawn” i ddatblygiad S4C Clic.

Gwasanaeth newydd

“Dyma’r adeg o’r flwyddyn pan mae teuluoedd yn dod at ei gilydd i wylio eu hoff raglenni a ffilmiau, ac rydyn ni’n falch iawn i lansio gwasanaeth box-sets Clic yn ystod cyfnod yr Ŵyl,” meddai’r Prif Weithredwr.

“Mae’r ffordd mae pobol yn gwylio ein cynnwys wedi gweddnewid, ac mae’n bwysig bod ein rhaglenni ar gael i’w gwylio ar lwyfannau digidol.

“Mae defnyddwyr S4C Clic nawr yn gallu gwylio hen gyfresi S4C a rhai newydd mewn ffurf box-set ac mae hynny’n bwysig iawn i ddatblygiad y gwasanaeth.”

Ar gael ar-lein

Ymysg y rhaglenni a fydd ar gael gyntaf fydd Con Passionate (cyfres 1), 04 Wal, Y Gwyll (cyfres 1-3), 35 Diwrnod (cyfres 1 a 2), Nyth Cacwn a Bois y Pizza.

Bydd modd gwylio detholiad o ffilmiau Nadoligaidd hefyd, gan gynnwys Rhestr Nadolig Wil, Porc Pei ac Y Dyn´Nath Ddwyn y Dolig.

Mae’r ffilm Hedd Wyn a Tair Chwaer – Cymer Dy Siâr ar gael i’w wylio eto hefyd, ynghyd â’r gyfres Sinema’r Byd, sef cyfres o bum ffilm fer a gafodd eu darlledu ledled Ewrop gan ddarlledwyr Undeb Darlledu Ewropeaidd.