Mae technegydd Technoleg Gwybodaeth mewn ysgol wedi cael ei ddedfrydu i bum mlynedd o garchar am gam-drin plentyn.

Fe blediodd Alex Barnes, 22, o Ben-y-bont ar Ogwr yn euog i naw cyhuddiad gwahanol yn ystod gwrandawiad blaenorol.

Roedd y cyhuddiadau’n cynnwys pum achos o gyflawni gweithred rhyw gyda phlentyn; tri achos o annog plentyn i ymgymryd â gweithred rhyw, ac un o weithred rhyw gyda phlentyn.

Fe glywodd Llys y Goron Caerdydd fod Alex Barnes wedi meithrin perthynas â merch 15 oed tra oedd yn dechnegydd mewn ysgol, gyda’r troseddau wedi digwydd rhwng misoedd Chwefror a Mawrth 2018.

Fe glywodd y llys hefyd fod Alex Barnes wedi defnyddio trais i reoli a mynnu ffafrau rhywiol gan y dioddefwr.

Yn ogystal â chyfnod o garchar, mae enw Alex Barnes wedi cael ei ychwanegu at y rhestr o droseddwyr rhyw ac mae hefyd wedi derbyn gorchymyn atal troseddau rhyw.