Mae’r gwasanaethau brys wedi’u galw i dref Tonypandy ar ôl i gar daro dynes am oddeutu 7.15 fore heddiw (dydd Sul, Rhagfyr 9).
Fe ddigwyddodd ar Heol y Dywysoges Louise, ac mae’r ffordd ynghau am y tro.
Mae’r heddlu’n gofyn i bobol osgoi’r ardal.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.