Mae canolfan gelfyddydol ym Mlaenau Ffestiniog wedi codi digon o arian er mwyn achub eu sinema.

Bu dyfodol Cellb yn y fantol ers i dywydd garw achosi difrod yno’r llynedd, ac wedi i gais am daliad yswiriant gael ei wrthod.

Ond bellach mae grŵp a gafodd ei sefydlu er mwyn achub y sinema – y Gwallgofiaid – wedi llwyddo i godi £10,000 i’w achub trwy ymgyrchu ar-lein.

“Rydan ni wedi cyrraedd y targed!” meddai neges ar gyfrif Facebook Cellb. “Gwych! Diolch am eich cefnogaeth dros y pedair wythnos diwethaf.

“Gobeithiwn bydd y sinema ym Mlaenau Ffestiniog efo ni am ddegawd i ddod. Mae Sinema Blaenau gan y Gwallgofiaid yn Cellb yn ddiogel! Diolch i bawb!”

Cefndir

Hen orsaf heddlu yw Cellb – fe gafodd ei agor ar ei newydd wedd yn 2016.

Daeth trafferthion i’r sinema’r llynedd, pan dorrodd pibell ddŵr y tu cefn i’r sgrin, gan achosi difrod a chostau ychwanegol.

Er i gwmni yswiriant ddweud y byddan nhw’n talu allan, yn dilyn asesiad llawn o’r difrod mi wnaethon nhw dro pedol.