Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod nhw am gyfrannu’r un faint â Llywodraeth Prydain at Fargen Twf y Gogledd.

Ym mis Hydref, fe gyhoeddodd Llywodraeth Prydain yn y Gyllideb y byddan nhw’n cyfrannu £120m i’r gronfa.

Ond mae Ysgrifennydd yr Economi ym Mae Caerdydd, Ken Skates, yn galw ar San Steffan i gyfrannu mwy, gan ychwanegu nad yw ei lywodraeth ef am gyfrannu mwy nes bod hynny’n digwydd.

Yn wreiddiol, roedd disgwyl i Lywodraeth Prydain gyfrannu £170m at y gronfa, gan sicrhau cyfanswm o tua £338m.

Pwyso ar San Steffan

“Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i gyflawni bargen twf a fydd yn trawsnewid y sefyllfa ac rydym yn cydweithio â phartneriaid er mwyn sicrhau’r pecyn a’r arweiniad cywir ar gyfer y gogledd,” meddai Ken Skates.

“Ein nod o hyd fydd sicrhau bod ein cyfraniad ariannol a hefyd Lywodraeth Prydain yn diwallu dyheadau’r fargen.

“Credwn fod angen parhau i roi pwysau ar Lywodraeth Prydain i ddarparu’r hyn yr oedd y bwrdd wedi’i ddisgwyl.

“Os bydd cyfraniad Llywodraeth Prydain yn uwch yn sgil hyn, byddwn ni hefyd yn rhoi cyfraniad uwch.”

Buddsoddi

Yn sgil y gronfa, mae disgwyl i fwy na £600m gael ei fuddsoddi mewn nifer o wahanol prosiectau yng ngogledd Cymru, gan gynnwys ffordd osgoi rhwng Caernarfon a’r Bontnewydd sydd werth £135m.

Mae cynlluniau hefyd ar gyfer trydedd pont dros y Fenai, yn ogystal â buddsoddiad gwerth £20m ym Mharc Gwyddoniaeth Menai.

Bydd yr un swm yn cael ei wario ar gyfer yr Athrofa Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch ym Mrychdyn hefyd, a fydd yn gymorth i ddenu busnesau i ogledd Cymru ac yn gwella sgiliau pobol, yn ôl Llywodraeth Cymru.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain, awdurdodau lleol a hefyd bartneriaid y sector preifat gydweithio er mwy sicrhau bod y fargen yn llwyddiant ysgubol,” meddai Ken Skates.