Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn nwyrain Sir Gaerfyrddin.

Dim ond un car – Vauxhall Vectra glas – oedd yn y digwyddiad ar draffordd yr M4 rhwng cylchfan Pont Abraham a chyffordd 48 (tuag at yr Hendy/Llanelli).

Digwyddodd y gwrthdrawiad am bedwar y bore heddiw (dydd Gwener, Rhagfyr 7), a chafodd y ffordd ei chau am sawl awr cyn iddi ailagor am naw y bore.