Mae glaw trwm a gwyntoedd cryfion yn achosi trafferthion ar draws Cymru heddiw (dydd Gwener, Rhagfyr 7).

Cafodd dyn ei achub o’i gerbyd ym Mhontyclun ac mae’r gwasanaeth tân wedi bod yn pwmpio dŵr o dŷ yn Nhreherbert ar ôl i wal a draen ddymchwel am tua 3.30yb.

Mae yna gyfyngiadau cyflymder ar bontydd Hafren a Britannia oherwydd gwyntoedd cryfion ac mae yna lifogydd yn Ffordd y Rhigos ar yr A4061.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, mae pedwar rhybudd llifogydd mewn grym a 29 rhybudd i fod yn barod am lifogydd.

Mae cwmni bysys Stagecoach hefyd yn rhybuddio y bydd eu gwasanaethau yn y Cymoedd yn cael eu heffeithio yn ystod y dydd oherwydd yr amodau tywydd gwael.