Mae cytundeb Brexit Theresa May yn “fargen wael” i Gymru, yn ôl llefarydd yr wrthblaid ar faterion Cymreig.

Dywedodd Christina Rees fod y cytundeb, a gafodd ei gymeradwyo gan yr Undeb Ewropeaidd fis diwethaf, yn “methu â darparu i bobol Cymru y sicrwydd sydd ei angen i ddiogelu eu swyddi a’u bywoliaeth”.

Mae’r Aelod Seneddol tros Gastell-nedd hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith nad yw’r term “masnach ddirwystr” yn ymddangos yn natganiad gwleidyddol Llywodraeth Prydain, cyn ychwanegu nad oes yn y cytundeb “gyfeiriad at Gymru” chwaith.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, wedi amddiffyn ei benderfyniad i gefnogi’r cytundeb, gan ddweud ei fod yn “optimistaidd” am ddyfodol y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.

‘Dim sôn am Gymru’

“Mae’r Ysgrifennydd Gwladol [Alun Cairns] wedi rhoi ei gefnogaeth i gytundeb sydd ddim hyd yn oed yn cyfeirio at Gymru, heb sôn am amddiffyn hawliau gweithwyr, safonau amgylcheddol, diogelwch cwsmeriaid a safonau byw,” meddai Christina Rees yn ystod sesiwn o gwestiynau ar faterion Cymreig yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw (Rhagfyr 5).

“Onid y gwirionedd yw mai bargen wael i Gymru yw hon sy’n methu â darparu i bobol Cymru y sicrwydd sydd ei angen i ddiogelu’u swyddi a’u bywoliaeth?”

Mewn ymateb, dadleuodd Alun Cairns fod cytundeb y Prif Weinidog yn “rhoi’r sicrwydd o fynediad at farchnadoedd yr Undeb Ewropeaidd a’r cyfleoedd i ffurfio cytundebau masnach ledled y byd”.

“Mae dadansoddiad y Llywodraeth yn dangos ein bod ni wedi sicrhau’r cytundeb gorau ar gyfer swyddi yng Nghymru a’r economi Gymreig, a fydd yn golygu ein bod ni’n parchu’r refferendwm ac yn ystyried y cyfleon newydd a fydd yn cael eu cynnig gan Brexit,” meddai.