Mae Heddlu Dyfed-Powys yn chwilio am ddwy ddynes sydd ar goll – y naill o Sir Gâr a’r llall o Bowys.

Does neb wedi gweld Rhian Jeremiah, 30 o Gastellnewydd Emlyn ers 1.25yb heddiw (dydd Mercher, Rhagfyr 5).

Roedd hi’n gwisgo siwmper las a jîns pan gafodd ei gweld ddiwethaf, ac mae’n debygol ei bod hi ar droed neu’n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.

A does neb wedi gweld Rebecca Finning, 49 o’r Faenor ger y Drenewydd ers 9.50yh neithiwr (dydd Mawrth, Rhagfyr 4).

Roedd disgwyl iddi fynd i apwyntiad gyda’i gwaith ym Machynlleth, ond wnaeth hi ddim cyrraedd pen y daith.

Fe gafodd ei gweld ddiwethaf yn ardal Carno, cyn mynd i gyfeiriad Caersws.

Mae lle i gredu ei bod hi’n gyrru car Renault Clio lliw arian, rhif LV07 UPZ.