Mae teyrnged wedi’i rhoi i gyn-feiciwr proffesiynol a fu farw mewn damwain draffig yng Nghaerdydd fis yn ôl.

Fe syrthiodd Michael Ruiz oddi ar ei feic ger ei gartref yn y brifddinas ar Dachwedd 3.

Bu farw’r gŵr 54 oed o’i anafiadau yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd ddeunaw diwrnod yn ddiweddarach.

“Person llawen iawn”

Mewn teyrnged iddo, mae ei deulu wedi’i ddisgrifio’n “dipyn o gymeriad” a oedd yn cael ei adnabod gan nifer yng Nghaerdydd.

“Roedd yn berson llawen iawn, a oedd wastad yn tynnu coes pawb ac wastad yn byw bywyd i’r eithaf,” meddai’r datganiad.

“Roedd yn chwarae sboncen, gyda brwdfrydedd mawr tuag at ‘monkey bikes’ ac yn aelod o grŵp y ‘Jolly Wobblers’ yn Essex.

“Fe fydd yna golled ar ei ôl.”