Bu farw’r actores, y gantores a’r gyflwynwraig, Heulwen Hâf. Roedd hi’n 74 oed ac wedi brwydro’n hir a dewr yn erbyn canser.

Yn ferch i gigydd a’i wraig o Gorwen, bu’n torri gwallt pan oedd yn iau ac yn rhedeg ei salon ei hun yn y dref.

Aeth yn ei blaen i ddilyn gyrfa yn modelu, ac fe dreuliodd gyfnodau yn byw yn Lerpwl ac yn Llundain.

Cafodd hefyd yrfa fel cantores a bu’n canu ac yn recordio yn Gymraeg a Saesneg, cyn dod yn wyneb ac yn llais adnabyddus ar S4C.

“Person hyfryd, hwyliog ac egnïol”

“Mae colli Heulwen Hâf yn ergyd drom i bawb yma yn S4C sy’n ei chofio fel cyflwynydd a chyhoeddwraig afaelgar a deinamig a pherson hyfryd, hwyliog ac egnïol,” meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C.

“Fe fydd ein gwylwyr yn ei hadnabod fel rhywun difyr a chynnes yn nyddiau cynnar, arloesol y sianel, a oedd yn gallu bachu eu sylw trwy ei phersonoliaeth liwgar.

“Yn hwyrach, dangosodd ei gonestrwydd rhyfeddol wrth ganiatáu i’r camerâu teledu ddilyn ei brwydr ddewr yn erbyn canser y fron yn y dogfennau ysgytwol ac ysbrydoledig Blodyn Haul a Bron yn Berffaith.”

Dim ond ychydig wythnosau sydd ers iddi ymddangos ar raglen Heno, yn rhoi ei chyfweliad olaf ac yn diolch am ei henw – ac yn gobeithio y byddai’r goleuni yn dal i befrio wedi iddi hi fynd.