Mae cwmni Golwg yn chwilio am Brif Weithredwr wrth i Dylan Iorwerth gyhoeddi ei fod yn camu o’r neilltu.

Fe fydd y pennaeth newydd yn arwain y cwmni i mewn i gyfnod newydd sy’n cynnwys cynllun arloesol Bro360 i greu rhwydwaith o wefannau bro.

Yn ôl yr hysbyseb swydd sy’n ymddangos yng nghylchgrawn Golwg heddiw, fe fydd y Prif Weithredwr yn benna’ gyfrifol am ddatblygu ochr fasnachol y cwmni gan gynnal a datblygu incwm o’r cyhoeddiadau a dod o hyd i ffynonellau newydd o incwm.

Syniadau ffresh a newydd

“Ar ôl mwy na 30 mlynedd, mae’n bwysig bod y cwmni’n cael ei arwain gan rywun efo syniadau ffresh a newydd,” meddai Dylan Iorwerth.

“Mae hwn yn amser perffaith i drosglwyddo’r awenau efo sicrwydd grantiau i bob un o’r cyhoeddiadau a chyfnod newydd o ddatblygu’n dechrau trwy Bro360.

“Mae byd y cyfryngau’n newid yn gyflym ac yn gyson, ac mae’r swydd yma’n gyfle i berson sydd am wneud marc a chyfraniad pwysig at ddyfodol y Gymraeg.”

Trosglwyddo

Fe fydd Dylan Iorwerth yn parhau i weithio am ddiwrnod bob wythnos ar gynllun Bro360 ac yn parhau i helpu Golwg yn y cyfnod trosglwyddo.

Pan fydd y trosglwyddo hwnnw’n digwydd, fe fydd Owain Schiavone, Cyfarwyddwr Masnachol Golwg, hefyd yn symud i gymryd cyfrifoldeb am reoli Bro360.

Fe fydd Enid Jones – yr aelod arall o’r tîm sydd wedi bod yn y cwmni o’r dechrau – yn parhau yn ei swydd hi yn Gyfarwyddwr Cyllid.

‘Cyfle ardderchog’

“Mae’r swydd yn gyfle ardderchog i rywun sydd eisiau gwneud cyfraniad at fywiogrwydd y byd Cymraeg ac arwain tîm ardderchog o weithwyr,” meddai Dylan Iorwerth.

“Golwg ydi’r unig gwmni neu gorff annibynnol sy’n cynhyrchu newyddion dyddiol yn Gymraeg ac yn cyhoeddi casgliad o gylchgronau – yr unig gystadleuaeth Cymraeg i gorff mawr fel y BBC.

“Mae’r ffaith ein bod yn parhau i ffynnu ar ôl 31 o flynyddoedd yn rhyfeddod bach – mi ddechreuon ni efo un cylchgrawn, Golwg, ond ryden ni bellach yn cynhyrchu lingo newydd ac WCW a’i ffrindiau hefyd, heb sôn am golwg360, yr unig wefan sy’n cynnig newyddion dyddiol Cymru a’r byd trwy’r Gymraeg.”