Mae plant mewn ysgol yng Nghaernarfon yng Ngwynedd yn dweud eu bod yn poeni am eu diogelwch oherwydd bod gyrwyr yn ymddwyn yn anghyfrifol y tu allan i’r ysgol.

Mae disgyblion Ysgol Llanllyfni yn galw ar yrwyr i beidio â pharcio ar y llinellau melyn na’r llinellau igam-ogam ar y ffordd sy’n arwain at yr ysgol.

Mewn ymgais i godi ymwybyddiaeth o’r broblem mae’r plant wedi bod yn dylunio arwyddion i’w gosod ger yr ysgol ac yn anfon llythyrau at gartrefi yn atgoffa’r gyrwyr eu bod yn rhoi cerddwyr mewn peryg.

 “Mae’r plant wedi bod yn dysgu am ddiogelwch ffordd ac rydan ni’n annog po fwyaf o deuluoedd ag sy’n bosib i gerdded i’r ysgol gan ei fod yn llesol i’w hiechyd ac yn well i’r amgylchedd,” dywedodd Geraint Jones, Pennaeth Ysgol Llanllyfni.

“Ond yn anffodus, pan maent yn cyrraedd at y lôn sy’n arwain at yr ysgol mae’n gallu bod yn beryg i groesi gan fod ceir wedi parcio lle na ddylent.”

“Synnwyr cyffredin”

 “Mae’n amhosib i wardeiniaid traffig fod ym mhob man felly rydym yn galw ar bobl i ddefnyddio synnwyr cyffredin ac yn gofyn iddyn nhw ystyried lle maen nhw’n parcio a pha effaith maent yn ei gael ar ddefnyddwyr ffordd eraill,” meddai Gwenan Huws Tomos, Rheolwr Gorfodaeth Parcio Cyngor Gwynedd.

Ychwanegodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd ei fod yn gobeithio bydd ymdrechion y plant “yn arwain at newid yn ymddygiad y gyrwyr hynny sy’n anwybyddu rheolau’r ffordd fawr.”