Mae nifer o garcharorion yn osgoi defnyddio’r Gymraeg neu ofyn am wasanaeth Cymraeg yn y carchar rhag ofn gwneud eu bywyd yn anodd, yn ôl adroddiad.

Dywed adroddiad gan Gomisiynydd y Gymraeg fod yna achlysuron wedi bod lle mae rhai staff carchardai wedi ymyrryd â rhyddid carcharorion i siarad Cymraeg â’i gilydd ac â’u teuluoedd.

Daw hyn er gwaethaf y ffaith bod gwasanaeth carchardai wedi cymryd “camau cadarnhaol” dros y blynyddoedd diwethaf, gyda mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yng ngharchardai Cymru.

Mae’r adroddiad yn cyfeirio at garchar Berwyn yng Ngogledd Cymru, lle mae cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol a’r trefniadau monitro wedi’u cryfhau.

“Parchu hunaniaeth”

Sail ‘Cymraeg yn y carchar’ yw cyfres o gyfweliadau gyda charcharorion, arolygon o ddogfennaeth a deddfwriaeth, a thystiolaeth gan sefydliadau sy’n darparu gwasanaeth carchardai.

Mae’r Comisiynydd wedi cyflwyno cyfres o argymhellion er mwyn galluogi carcharorion i siarad eu hiaith eu hunain a mynegi eu hunain.

Yn eu plith mae’r angen i sefydliadau barchu hunaniaeth carcharorion Cymraeg eu hiaith trwy sicrhau bod carchardai yn monitro eu gwasanaethau Cymraeg.

“Hawl sylfaenol”

“Nid mater o foethusrwydd yw iaith, ond mater o gyfiawnder,” meddai Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws.

“Mae’n ymwneud â hawl sylfaenol carcharor i gyfathrebu drwy gyfrwng ei iaith ei hun, neu’r iaith y gall fynegi ei hun rwyddaf ynddi.

“Mae clywed enghreifftiau staff carchardai’n ymyrryd â rhyddid carcharorion i siarad Cymraeg â’i gilydd ac â’u teuluoedd yn fy nhristáu; ac mae’n bwysig ei gwneud hi’n glir nad yw sefyllfaoedd o’r fath yn dderbyniol.”

Cymryd camau

 Yn ôl Amy Rees, Cyfarwyddwr Gweithredol HMPPS yng Nghymru: “Rydym yn derbyn y canlyniadau ac eisoes wedi dechrau rhoi camau gweithredu ar waith er mwyn gwella profiadau carcharorion sy’n siarad Cymraeg.

“Fel y mae’r adroddiad yn nodi, mae ateb anghenion iaith carcharorion yn allweddol er mwyn cefnogi adsefydlu a lleihau aildroseddu.

“Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â’r Comisiynydd er mwyn gwella’n prosesau i gyflawni hynny.”