Byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn dyblu nifer y tai newydd sy’n cael eu hadeiladu bob blwyddyn pe baen nhw’n dod i rym ar ôl etholiadau nesa’r Cynulliad, yn ôl David Melding, eu llefarydd tai.

Roedd gostyngiad o 19% yn nifer y tai a gafodd eu hadeiladu hyd at fis Mehefin y llynedd – 6,000 i gyd.

Ond maen nhw am ddyblu’r nifer i 12,000 bob blwyddyn er mwyn mynd i’r afael â’r prinder yng Nghymru.

Bydd eu strategaeth newydd yn cael ei lansio yfory (dydd Llun, Rhagfyr 3), gyda’r bwriad o hwyluso’r broses adeiladu i gwmnïau preifat, cymdeithasau tai a chynghorau lleol.

Ymhlith y cynlluniau eraill sy’n cael eu hystyried mae dileu’r dreth ar drafodion tir ar eiddo sy’n werth hyd at £250,000, dileu’r cyfyngiadau ar fenthyg arian ar gyfer tai cymdeithasol, a chreu cofrestr o ardaloedd lle mae’r tir yn addas at ddefnydd diwydiannol.

Uchelgeisiol

Dim ond trwy fod yn uchelgeisiol y bydd modd cyrraedd targedau o ran adeiladu tai, yn ôl David Melding.

Ac mae’r targedau wedi’u croesawu gan y diwydiant adeiladu, sy’n dweud bod codi 12,000 o dai newydd y flwyddyn yn bosib.

“Fel mae hi, dim ond pum cwmni yng Nghymru sy’n adeiladu 80% o’r holl gartrefi newydd,” meddai Ifan Glyn o Ffederasiwn Prif Adeiladwyr Cymru wrth raglen Sunday Politics Wales y BBC.

“Rydym yn credu y gallwn wireddu potensial drwy ddatgloi potensial cwmnïau adeiladu bach a chanolig wrth wneud cynllunio’n llai cymhleth a llai drud a thrwy gynyddu mynediad i arian fforddadwy a thrwy wneud mwy o dir dichonadwy ar gael.”