Adeilad y Ganolfan Gymraeg yn Wrecsam
Daeth dros gant o gefnogwyr menter gydweithredol newydd sy’n bwriadu agor Canolfan Gymraeg yng nghanol Wrecsam i gyfarfodydd cyhoeddus yn hen dafarn y Saith Seren (Seven Stars) ar Stryt Caer.

Roedd y cyfarfodd, yn ôl cadeirydd y fenter y Cynghorydd Marc Jones, yn gyfle i fuddsoddwyr potensial fedru gweld cystal lle ydi’r adeilad a chlywed mwy am gynlluniau’r fenter i’w drawsnewid yn ganolfan i “bopeth Cymraeg” yn y cylch.

Dywedodd Marc Jones: “Y bwriad ydi agor canolfan sy’n gaffi/bar yn ystod y dydd, yn cynnig cynnyrch lleol a Chymreig, yn dafarn mwy traddodiadol gyda’r nos ac yn cynnig swyddfeydd a stafelloedd cyfarfod fyny grisia. Rydan ni’n siarad efo tenantiaid posib i’r swyddfeydd yn barod. Mi fyddai adloniant Cymraeg (a Chymreig) yn rhan bwysig o’r atyniad.”

Man cychwyn y fenter oedd cnewyllyn o bobl yn teimlo fod angen gwneud mwy i normaleiddio’r iaith Gymraeg yn Wrecsam, er mwyn ei gwneud yn iaith gymunedol a chymdeithasol yn y dre a’r cylch ehangach. Mae 12,000 o siaradwyr Cymraeg yn Wrecsam gyda llawer mwy yn dysgu ac yn danfon eu plant i ysgolion Cymraeg. Er bod twf yn nifer y plant sy’n mynd drwy’r sustem addysg Gymraeg, mae yna brinder cyfleon iddyn nhw siarad yr iaith y tu allan i’r ysgol a’r cartre.

Ychwanegodd Marc Jones: “Rydan ni’n ffodus iawn fod yr adeilad wedi ei brynu ar ein rhan ni a bod gwaith yn mynd rhagddi i wneud gwelliannau i’r adeilad. Mae angen i’r fenter gydweithredol – Canolfan Gymraeg Wrecsam – godi tua £60,000 er mwyn medru agor ar Ragfyr 1. Rydan ni yn agoshau’n ara’ bach at y nod yna a dwi’n ddiolchgar iawn i bobl ledled Cymru sydd wedi cyfrannu.

“Ar hyn o bryd, mae mwy o ddiddordeb wedi dod ymhlith dysgwyr na’r Cymry Cymraeg. Mae llawer o bobl wedi cysylltu i ddweud eu bod isio ail-gydio yn y Gymraeg a bod hwn i’w weld yn gyfle i’w wneud yn anffurfiol ac yn gymdeithasol.

“Roedd yn braf iawn derbyn siec gan Heini Gruffudd o Abertawe er enghraifft, rhywun sydd wedi bod ynglwm â Thy Tawe ers y cychwyn. Roedd clywed ganddo yn atgoffa rhywun o’r angen am y math yma o ganolfan ymhob tre’ mawr mewn ardaloedd llai Cymraeg er mwyn hybu’r iaith a diwylliant a chreu hyder ymhlith Cymry Cymraeg, dysgwyr a chefnogwyr yr iaith.”

Y lleiafswm y gall unrhyw unigolyn neu fusnes fuddsoddi yn y fenter yw £100. Y mwyafswm ydi £20,000 a bydd pawb sy’n buddsoddi â’r hawl i benderfynu cwrs y fenter.

Os am fwy o wybodaeth gallwch gysylltu â 7seren@gmail.com neu ffonio/tecstio 07747 792 441.

Mae’r wefan www.saithseren.com yn cynnig mwy o wybodaeth a gallwch ymaelodi â Chanolfan Gymraeg Wrecsam arlein yno gyda PayPal neu cherdyn credyd.