Mae Is-Ganghellor Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol flwyddyn nesaf ar ôl naw mlynedd wrth y llyw.

Bydd yr Athro John G Hughes yn aros yn y brifysgol tan fis Awst 2019, ac mae disgwyl i’w olynydd gymryd yr awenau yn fuan wedi hynny.

Ef yw seithfed Is-Ganghellor y brifysgol 135 blwydd oed.

Meddai’r Brifysgol mewn datganiad:

“Dan arweinyddiaeth yr Athro Hughes, cafwyd nifer o ddatblygiadau newydd ym Mhrifysgol Bangor gan gynnwys Pentref Myfyrwyr newydd gwerth £38m ar safle’r Santes Fair…

“Y bartneriaeth gyntaf erioed rhwng Cymru a Tsieina i sefydlu coleg newydd yn y wlad honno…

“Sefydlu Parc Gwyddoniaeth Menai gwerth £20m, agor Canolfan Morol Cymru gwerth £5.5m ym Mhorthaethwy a oedd yn rhan o’r prosiect SEACAMS gwerth £25 miliwn…

“Yn ogystal â chwblhau prosiect Pontio gwerth £50 miliwn.”

Diolch

“Rwy’n hynod ddiolchgar i’r Athro Hughes am ei gyfraniad rhyfeddol,” meddai Marian Wyn Jones, Cadeirydd Cyngor Prifysgol Bangor.

“Mae wedi goruchwylio dros newid sylweddol yn y Brifysgol, ac mae wedi sicrhau bod myfyrwyr yn parhau wrth wraidd bopeth a wnawn.”

John G Hughes

Cafodd ei fagu yn Belfast, Gogledd Iwerddon, ac mae ei gefndir academaidd ym meysydd mathemateg a ffiseg ddamcaniaethol.

Roedd yn Ddirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil) ym Mhrifysgol Ulster, Gogledd Iwerddon, rhwng 1991 a 2004, ac yn Llywydd ar Brifysgol Maynooth, Gweriniaeth Iwerddon, yn 2004.

Aeth yr Athro Hughes i Fangor ym mis Medi 2010.