Mae teulu’r diweddar Aelod Cynulliad, Carl Sargeant, wedi’i siomi nad yw’r cwest i’w farwolaeth wedi dod i ben.

Mse disgwyl iddo barhau yn y flwyddyn newydd.

“Mae’r teulu, fel y Crwner [John Gittins], yn siomedig nad yw cwest Carl wedi dod i ben, ond nid yw’n syndod,” meddai cyfreithiwr y teulu, Neil Hudgell, mewn datganiad.

“I Bernie, Jack a Lucy, mae wedi bod yn wythnos galed, llawn gohiriadau diangen. Ac mae’r ffaith nad ydyn nhw wedi cael yr atebion maen nhw’n eu haeddu yn anfoddhaol tros ben.

“Er hynny, dydyn nhw ddim am roi’r gorau i’w hymgyrch am y gwir.”

Bydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, a’i uwch-Ymgynghorydd Arbennig, Matthew Greenough, yn dychwelyd i roi tystiolaeth unwaith eto yn y flwyddyn newydd.

Ac mae’r teulu wedi dweud eu bod yn “ofidus” am yr amgylchiadau sydd wedi arwain at benderfyniad y Crwner i’w galw eto.

Mae’r teulu hefyd wedi dweud na fyddan nhw’n gwneud sylw pellach tan fod y cwest yn ailddechrau.

Negeseuon testun

Mae Leslie Thomas QC, sy’n cynrychioli teulu Carl Sargeant, wedi galw ar y Crwner i gael gafael ar gopïau o negeseuon testun rhwng Matthew Greenough a’r Aelod Cynulliad Ann Jones.

Dyw’r Crwner ddim wedi cadarnhau os bydd yn gwneud hynny. Mae adroddiadau’n awgrymu mai datganiad tyst newydd gan Ann Jones sydd wedi ysgogi’r cais gan Leslie Thomas.

Cefndir

Fe gafodd cyn-Aelod Cynulliad Alyn a Glannau Dyfrdwy ei ganfod yn farw yn ei gartref yng Nghei Connah ar Dachwedd 7 y llynedd.

Ychydig ddyddiau ynghynt, roedd wedi cael ei ddiswyddo o Gabinet Llywodraeth Cymru yn sgil honiadau o gamymddwyn yn erbyn menywod.