Mae aelodau Plaid Cymru ar Gyngor Sir Caerfyrddin yn erbyn bwriad Bwrdd Iechyd Hywel Dda i israddio dau ysbyty yn y gorllewin.

Mae’r cynghorwyr yn galw ar y Bwrdd i “roi cleifion yn gyntaf”, trwy roi blaenoriaeth i integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol sylfaenol yn llawn o dan un llinell reoli.

Byddai hyn, medden nhw, yn arbed costau ac yn gohirio’r angen am ysbyty newydd gerllaw’r ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, ac yn sicrhau dyfodol i Glangwili fel ysbyty cyffredinol yng Nghaerfyrddin.

“Integreiddio”

“Pe bai iechyd a gofal cymdeithasol sylfaenol yn cael eu hintegreiddio’n llawn o dan un llinell o reolaeth, fel y mae Plaid Cymru a Chyngor Sir Gâr yn cynnig, ni fyddai cannoedd o gleifion yn gorfod treulio cymaint o amser yn yr ysbyty, os bod yno o gwbwl yn wir,” meddai’r Cynghorydd Emlyn Schiavone, sydd hefyd yn Faer tref Caerfyrddin.

“Byddai hynny, yn ei dro, yn galluogi Glangwili i ganolbwyntio ar fod yn ysbyty gofal aciwt.

Yn ôl y Cynghorydd Alun Lenny wedyn, mae disgwyl y bydd yr ysbyty cyffredinol ger y ffin sirol yn costio £500m, sy’n “ein tywys ni i diriogaeth tir y Tylwyth Teg,” meddai.

Y cefndir

O dan gynlluniau Bwrdd Iechyd Hywel Dda, bydd gwasanaethau brys yn dod i ben yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd ac Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.

Yn eu lle bydd ysbyty newydd ag uned frys yn cael ei godi mewn lleoliad rhwng y ddau ysbyty – rhywle rhwng Arberth a San Clêr.

Yn ôl y bwrdd iechyd, maen nhw wedi cymryd y penderfyniadau hyn yn sgil pryderon bod gormod o straen arnyn nhw i gynnal gwasanaethau.