Bydd Cyngor Sir Powys yn arbed dros £1m wrth gwtogi ar nifer yr uwch-swyddogion yn y tîm rheoli.

Yn dilyn adolygiad o arweinyddiaeth y sefydliad, mae’r cyngor wedi penderfynu lleihau’r nifer o benaethiaid o 24 i 16.

Bydd y strwythur newydd yn cynnwys y Prif Weithredwr, tri Chyfarwyddwr Strategol a 12 Pennaeth Gwasanaeth.

Yn ôl y Prif Weithredwr Dros Dro, Dr Mohammed Mehment, bydd y cam hwn, a fydd yn dod i rym fis Mawrth nesaf, yn cynnig “strwythur gadarnach” ar gyfer ymdopi â’r heriau sy’n wynebu llywodraeth leol.

“Fe wnaethom gynnal adolygiad helaeth o uwch strwythur rheoli’r cyngor a ddangosodd nad oedd bellach yn addas, a bod angen newid radical er mwyn iddo gyd-fynd yn agosach â blaenoriaethau’r cyngor, lleihau costau rheoli a dileu gweithio mewn seilos,” meddai.

“Dw i’n credu y bydd y strwythur newydd yn cynnig yr arweinyddiaeth a’r cyfeiriad mae’r cyngor ei angen.”