Mae Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol wedi wfftio pryderon am gynllun gwerth £9 miliwn i sefydlu ‘Archif Ddarlledu Genedlaethol’ yno.

Bwriad y llyfrgell yn Aberystwyth yw creu archif a fyddai’n gartref i  hen raglenni radio a theledu, gan gynnwys 160,000 o raglenni BBC Cymru.

Yn ôl cynlluniau’r llyfrgell mi fyddai Llywodraeth Cymru a’r BBC yn cyfrannu £1m yr un, y Llyfrgell Genedlaethol yn cyfrannu £2miliwn a’r Loteri Genedlaethol yn cyfrannu £5m.

Ond, mae dyfodol y cynllun yn y fantol wedi i’r Gweinidog Diwylliant, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, ddatgan nad yw’n barod i gyfrannu’r £1miliwn.

Mae’r Gweinidog yn pryderu bod trafodaethau allweddol wedi eu cynnal “yn rhy hwyr”, ac yn gofidio y gallai’r archif “beryglu sefydlogrwydd ariannol y llyfrgell”.

Wfftio hynny mae Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol, Rhodri Glyn Thomas.

“Mae’r llyfrgell fel pob sefydliad arall yn y sector gyhoeddus yn wynebu gwasgfa ariannol,” meddai wrth golwg360.

“Mae hynny’n wir. Ond, mae hynny ar wahân i’r prosiect yma. Nid y prosiect ei hun sydd yn creu bygythiad i ddyfodol a sefydlogrwydd y llyfrgell.

“Dyma’r casgliad mwyaf pwysig o hanes cymdeithasol Cymru dros y 70 mlynedd diwethaf. Ac felly mae’n gwbl briodol ei fod yn cael ei gartrefu yn y llyfrgell.

“Ac mae’n rhaid i ni ffeindio ffordd o sicrhau hynny. A dyna fydd sail ein trafodaethau yn awr gyda Llywodraeth Cymru a’r loteri.”

Arian

Mae Rhodri Glyn Thomas yn esbonio bod buddsoddiad pob corff wedi ei ddiogelu gan eithrio £1m Llywodraeth Cymru.

Ac mae’n nodi bod cyfraniad y Loteri Treftadaeth yn ddibynnol ar fuddsoddiad y Llywodraeth – hynny yw, heb £1 miliwn y Llywodraeth mi allan nhw’n golli ymrwymiad £5 miliwn y loteri.

Does dim opsiwn, meddai, ond parhau i drafod â’r Llywodraeth a cheisio sicrhau eu buddsoddiad. Mae’n ategu fod yna obaith o hyd yn sgil sylwadau diweddar Dafydd Elis-Thomas.

“Yn [ystod cyfarfod bwrdd yr wythnos diwethaf] wnaethom ni fynegi siom oherwydd nad oedd y Llywodraeth wedi ymrwymo’r £1 miliwn oedd ei angen er mwyn tynnu i lawr y £5 miliwn arian loteri,” meddai.

“Roedd dyddiad cau’r arian hynny yn dod i fyny ar ddechrau mis Rhagfyr. Felly roeddwn i yn tybio ar y pryd bod y cyfan ar ben.

“Ond roedd yna gwestiwn brys yn y Senedd dydd Mercher a gwnaeth yr Arglwydd Elis-Thomas ddweud ei fod dal yn gefnogol i’r archif, a bod y £1 miliwn dal ar gael.

“Felly rydym ni yn ôl mewn trafodaethau ar hyn o bryd, gyda’r Llywodraeth.”