Mae Cyngor Ynys Môn yn dweud mai tanddaearu ceblau’r Grid Cenedlaethol yw’r “unig ateb derbyniol”, yn sgil bwriad y corff trydan i godi ail res o beilonau ar draws Ynys Môn.
Mae’r Grid Cenedlaethol eisoes wedi cyflwyno cais am ganiatâd ar gyfer y cynllun, a bydd ymchwiliad gan yr Arolygaeth Gynllunio yn cael ei gynnal y flwyddyn nesaf.
Ond yn ôl y cyngor, mae ganddyn nhw bryderon ynglŷn â’r effaith y bydd ail res o beilonau y ei gael ar dirlun a chymunedau’r ynys.
Yn dilyn cyfres o astudiaethau, maen nhw’n ffafrio claddu’r ceblau, opsiwn a fyddai’n darparu “cysylltiad grid amgen” gydag atomfa Wylfa Newydd, medden nhw.
“Unfrydol ein gwrthwynebiad”
“Rydym yn hynod siomedig bod y prosiect cyswllt uwch ben a pheilonau wedi’i gyflwyno,” meddai Arweinydd y Cyngor, Llinos Medi.
“Fel y gymuned a’r awdurdod sy’n lletya’r prosiect, ein blaenoriaeth yw sicrhau’r canlyniadau gorau posib ar gyfer pobol a chymunedau Ynys Môn.
“Rydym yn bryderus iawn nad yw safbwyntiau pobol leol wedi eu hystyried n dilyn y broses ymgysylltu ac ymgynghori.
“Mae consensws clir ymysg aelodau etholedig yr Ynys – rydym yn unfrydol yn gwrthwynebiad yn erbyn ail linell o beilonau trydan ar draws Ynys Môn ac rydym yn dymuno i unrhyw linellau pŵer newydd gael eu tan ddaearu.”