Mae wedi dod i’r amlwg na fydd y cwest i farwolaeth Carl Sargeant, y diweddar Aelod Cynulliad, yn dod i ben yr wythnos hon.

Yn ôl adroddiadau mae John Gittins, y Crwner, wedi datgelu na fydd y cwest yn dod i ben heddiw (Tachwedd 30), ac yn hytrach y bydd yn ailgychwyn yn 2019.

Her gyfreithiol Cwnsler y Prif Weinidog, Cathy McGahey, ac awydd i alw am ragor o dystiolaeth gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones, sy’n gyfrifol am benderfyniad y Crwner.

Yn sgil gwrandawiad dydd Iau (Tachwedd 29) mae Cathy McGahey wedi galw am adolygiad barnwrol i benderfyniad John Gittins i beidio â chymryd tystiolaeth gan ddau gynghorydd o Sir y Fflint.

Mae’n “ymddangos nad yw [un o’r cynghorwyr yma] Bernie Attridge, wedi dweud y gwir” mewn datganiad tyst, yn ôl Cathy McGahey.

Y diweddaraf

Mae disgwyl  i weddw Carl Sargeant, Bernie Sargeant; a’i fab, Jack Sargeant; fod yn dystion yn ddiweddarach, a bellach mae Lesley Griffiths wedi gorffen rhoi tystiolaeth.

Roedd yr Ysgrifennydd Materion Gwledig yn gyfaill agos i’r Aelod Cynulliad, ac mi wnaeth hi grio sawl gwaith yn Neuadd Sirol Rhuthun wrth sôn am iselder Carl Sargeant.

Cefndir

Fe gafodd cyn-Aelod Cynulliad Alyn a Glannau Dyfrdwy ei ganfod yn farw yn ei gartref yng Nghei Connah ar Dachwedd 7 y llynedd.

Ychydig ddyddiau ynghynt, roedd wedi cael ei ddiswyddo o Gabinet Llywodraeth Cymru yn sgil honiadau o gamymddwyn yn erbyn menywod.