Bydd y cwest i farwolaeth Carl Sargeant yn dod i ben heddiw (dydd Gwener, Tachwedd 30), ar y pumed dydd o wrandawiadau yn Rhuthun.

Mae disgwyl i’r crwner glywed tystiolaeth gan aelodau o deulu’r cyn-Weinidog, gan gynnwys ei wraig a’i fab, Bernie a Jack Sargeant.

Fe gafodd cyn-Aelod Cynulliad Alyn a Glannau Dyfrdwy ei ganfod yn farw yn ei gartref yng Nghei Conna ar Dachwedd 7 y llynedd.

Ychydig ddyddiau ynghynt, roedd wedi cael ei ddiswyddo o Gabinet Llywodraeth Cymru yn sgil honiadau o gamymddwyn yn erbyn menywod.

Roedd Carl Sargeant yn gwadu’r cyhuddiadau hyn.

Mae’r cwest i’w farwolaeth yn cael ei gynnal gan grwner gogledd Cymru, John Gittins, yn Neuadd Sirol Rhuthun.

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ymhlith y rheiny sydd wedi ymddangos gerbron y cwest yn ystod y dyddiau diwethaf.