Mae penderfyniad cwmni Americanaidd i gau eu safle yn Wrecsam yn “siom ofnadwy”, yn ôl cynghorydd sir lleol.

Mae cwmni Refinitiv wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cau ei safle yn ystâd ddiwydiannol Wrecsam, fel rhan o newid strwythur eu cwmni.

Yn sgil y cam – a fydd yn arwain at 300 o bobol yn Wrecsam yn colli’u swyddi – mae Marc Jones, arweinydd grŵp Plaid Cymru Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, wedi lleisio ei ofidion.

“Mae’n newyddion siomedig ofnadwy, ond yn anffodus dyw e ddim yn annisgwyl,” meddai wrth golwg360.

“Yn ôl ar y dechrau pan wnaethon nhw gyhoeddi hyn, roedd yn gwbwl amlwg bod nhw wedi penderfynu – beth bynnag oedd yr ymgynghoriad – bod nhw’n mynd i fwrw ymlaen efo’r cau.

“Felly, daeth yr ergyd ym mis Hydref yn hytrach nag yn awr a bod yn onest.  Ond mae’n brifo economi Wrecsam. Mi oedden nhw’n swyddi o safon, ac mewn maes eithaf arbenigol.”

Mae Refinitiv yn darparu gwasanaethau ariannol, ac mi wnaethon nhw gyhoeddi ym mis Hydref y byddan nhw’n cynnal ymgynghoriad ynghylch cau’r safle yn Wrecsam.

“Y gwasanaeth gorau”

“Wrth i Refinitiv droi’n sefydliad sy’n canolbwyntio ar farchnadoedd ariannol, ryden ni’n anelu at weithredu mewn modd sy’n cynnig y gwasanaeth gorau i gwsmeriaid,” meddai datganiad gan y cwmni.

“Mae hynny’n golygu llai o ganolfannau, a chanolfannau mwy… Ryden ni’n deall fod hyn yn cael effaith ar y gymuned yn Wrecsam ac wedi ymrwymo i’w cynorthwyo.”