Mae gan fenter gymunedol yn Eifionydd un diwrnod i godi arian er mwyn achub tafarn leol.

Mae tafarn Y Plu yn Llanystumdwy wedi bod ar werth ers pedair blynedd, ac ers mis Medi mae grŵp  Menter y Plu wedi bod yn ceisio codi arian i’w phrynu.

Nod y grŵp yw codi tua £80,000, a bydd y cyfnod codi arian yn dod i ben am hanner nos yfory (dydd Gwener, Tachwedd 30).

Yn ôl Cyd-Gyfarwyddwr Menter y Plu, Siôn Jones, mae’r grŵp cymunedol – a gafodd ei sefydlu ym mis Gorffennaf – yn gobeithio gwarchod treftadaeth y lle trwy ei brynu i’r gymuned.

“Prysur mynd mae tafarndai gwledig efo cymeriad a chroeso Cymraeg,” meddai wrth golwg360.

“Maen nhw’n prysur ddiflannu. Ac os bydd hwn yn mynd buasai’n dorcalonnus. Unwaith maen nhw wedi mynd, mae’n job ofnadwy eu cael nhw yn ôl.

“Mae’n haws eu cadw na’u creu. Mae pobol yn dod yn gyfranddalwyr gan fod nhw’n credu yn y ffaith ei fod yn dafarn Gymraeg hynafol.”

Cefndir

Mae Tafarn y Plu yn 200 mlwydd oed, a hi yw’r unig adeilad o’i fath yn y pentref – does dim un siop, caffi na thafarn arall yno.

Trwy Fenter y Plu, mae modd prynu cyfranddaliadau sydd gwerth £100 a £20,000. Hyd yma, mae 100 o bobol wedi cyfrannu, gydag ambell un yn rhoi £5,000.

Bydd y cyfranddalwyr yn cyfarfod ar ôl i’r cyfnod codi arian ddod i ben, er mwyn trafod eu camau nesaf. Ac mae Menter y Plu yn bwriadu codi rhagor trwy geisiadau am fenthyciadau.

Dyw Siôn Jones  ddim yn fodlon datgelu faint sydd wedi’i godi hyd yma, ond mae’n datgelu na fyddai methu eu targed “yn ddiwedd byd”.

Mentrau cymunedol

Petai’r ymgyrch yn llwyddo, nid dyma fyddai’r fenter gymunedol gyntaf o’i fath yn yr ardal.

Eleni mae Tafarn y Fic yn Llithfaen – tafarn cymunedol hynaf Ewrop –  wedi bod yn dathlu ei phen-blwydd yn 30 oed.

Mae’r Pengwern yn Llan Ffestiniog a Thafarn yr Heliwr, Nefyn, hefyd yn dafarnau cymunedol.