Mae un o’r prif arbenigwyr ar hanes Cymru’r ddeunawfed ganrif yn dweud ei bod yn “hen bryd” i’r genedl gydnabod cyfraniad Iolo Morganwg a chodi “cofeb go sylweddol” iddo.

Mae’r Athro Geraint H Jenkins newydd gyhoeddi ei astudiaeth o’r gŵr o Drefflemin – Y Digymar Iolo Morganwg – yn dilyn blynyddoedd o bori trwy ei archif sylweddol yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Heblaw am gofeb flodeuog o Oes Fictoria yn Eglwys Trefflemin, does yr un gofeb yng Nghymru sy’n talu teyrnged i’r “gwir Iolo”, sy’n enwog am sefydlu Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yn yr 1790au, meddai Geraint Jenkins.

Y tu allan i’r Senedd 

“Baswn i’n ei osod e [y gofeb] y tu allan i’r Senedd yng Nghaerdydd, fel bod pobol yn cael eu hatgoffa o’r dyn mwyaf diddorol a difyr a dysgedig a welwyd erioed yng Nghymru,” meddai Geraint H Jenkins wrth golwg360.

“Beth sydd angen arnom ni ydi cofeb go sylweddol tebyg i’r rheiny rydych chi’n eu gweld yn Iwerddon ac yn Nulyn, er enghraifft, ar gyfer eu harwyr nhw.

“Tase rhywun yn fodlon rhoi £30,000 fe allen ni wneud gwyrthiau. Os ydi pobol Caerffili yn gallu codi cofeb i Tommy Cooper a chodi £30,000 i wneud hynny, does bosib bod y Cymry Cymraeg yn gallu gosod cofeb deilwng felly i Iolo Morganwg yng Nghaerdydd, sydd o fewn deng milltir i’w gartref.”

Mawredd

Dywed Geraint H Jenkins mai’r duedd gyffredinol yw ystyried Iolo Morganwg fel “dyn drwg”, a aeth ati i ffugio gweithiau llenyddol a llygru rhannau o’r traddodiad llenyddol Cymraeg.

Ond fe ddylai’r ffugiwr gael ei ddathlu, meddai, a’i ystyried hefyd “fel bardd rhyddid, fel gweriniaethwr i’r carn, fel un o’n tadau cenedlaethol ni, ac fel un o’r dyfeiswyr gorau rydyn ni wedi’i weld”.

“Dyna beth dw i wedi ceisio ei bwysleisio yn y gyfrol yma yw mawredd Iolo,” meddai wedyn. “Pe tai e’n Sais neu’n Sgotyn, fe fyddai wedi cael y gydnabyddiaeth y mae’n ei haeddu.

“Dyw e ddim wedi cael hynny fel Cymro, ac mae’n bryd i ni wneud yn iawn am hynny.”

Roedd Geraint H Jenkins yn siarad yn Festri Capel Brondeifi yn Llanbedr Pont Steffan neithiwr (nos Lun, Tachwedd 26).