Dyn sydd wedi’i gyhuddo o losgi ei wraig i farwolaeth gerbron llys
Geoffrey Bran, 70, wedi’i gyhuddo o lofruddio ei wraig Mavis Bran, 69
Fe fydd dyn sydd wedi’i gyhuddo o losgi ei wraig i farwolaeth yn y siop sglodion roedden nhw’n ei redeg, yn sefyll ei brawf ym mis Mai, clywodd llys heddiw.
Mae Geoffrey Bran, 70, wedi’i gyhuddo o lofruddio ei wraig Mavis Bran, 69, yn dilyn digwyddiad yn Chipoteria yn Hermon, Sir Gaerfyrddin.
Fe ymddangosodd Geoffrey Bran gerbron Llys y Goron Abertawe drwy gyswllt fideo o garchar Abertawe.
Nid yw wedi cyflwyno ple i’r cyhuddiad.
Dywedodd yr erlynydd Rachel Knight bod dyddiad dros dro wedi cael ei bennu ar gyfer achos a fydd yn para pythefnos ar 7 Mai.
Cafodd Geoffrey Bran, o Hermon, ei gadw yn y ddalfa.
Bu farw Mavis Bran yn Ysbyty Treforys chwe diwrnod ar ôl iddi gael llosgiadau difrifol am 1.30pm ar ddydd Mawrth, 23 Hydref.
Cafodd ei gwr ei arestio ar amheuaeth o ymosod yn wreiddiol cyn cael ei arestio eto a’i gyhuddo o lofruddiaeth ddydd Iau diwethaf.