Mae cwest i farwolaeth y cyn-Weinidog Carl Sargeant, a oedd wedi crogi ei hun yn ei gartref y llynedd, wedi clywed ei lythyr olaf i’w deulu, lle mae’n ymddiheuro am eu siomi.

Cafodd corff y cyn-Aelod Cynulliad tros Alun a Glannau Dyfrdwy ei ganfod gan ei wraig, Bernadette, yng nghartref y teulu yng Nghei Conna fis Tachwedd y llynedd.

Bu farw ddiwrnodau ar ôl iddo gael ei ddiswyddo o Gabinet Llywodraeth Cymru a’i wahardd o’r Blaid Lafur yn dilyn honiadau ei fod wedi ymddwyn yn amhriodol.

Roedd Carl Sargeant yn gwadu’r cyhuddiadau hynny.

Y llythyr olaf

Yn Neuadd Sirol Rhuthun heddiw (dydd Llun, Tachwedd 26), fe glywodd y llys ddatganiad gan y Cwnstabl Siwan Hughes, a gafodd ei galw i gartref Carl Sargeant yn fuan wedi ei farwolaeth ar Dachwedd 7, 2017.

Yn ôl y blismones, fe ddywedodd Bernadette Sargeant fod ei gŵr wedi gadael nodyn ar ddrws un o ystafelloedd y tŷ yn dweud iddi beidio â dod i mewn ac i ffonio’r heddlu.

Roedd llythyr arall wedyn, a gafodd ei ganfod ger y corff, yn cynnwys ymddiheuriad gan Carl Sargeant ei hun i’w deulu.

“Dydych chi ddim yn haeddu dim o’r cyhoeddusrwydd hwn oherwydd fy ngweithredoedd,” meddai’r llythyr.

“Dw i wedi eich gadael chi i lawr.

“Ond ar wahân i hynny, dw i’n eich caru’n chi’n fwy nag yr ydych chi’n ei wybod a dw i’n sori am gymryd y ffordd hawdd allan, gan eich gadael chi efo fy llanast.”

“Ymchwiliad llawn a theg”

Mae John Gittins, Prif Grwner gogledd Cymru, wedi dweud na fydd y cwest, a fydd yn para hyd at bum diwrnod, yn cael ei ddylanwadu gan “y Wasg, gwleidyddiaeth na phersonoliaethau” wrth iddo geisio cynnal “ymchwiliad llawn a theg”.

Mae disgwyl i Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, gyflwyno tystiolaeth gerbron y cwest yn ystod yr wythnos, ynghyd ag Ian McNicol, a oedd yn Ysgrifennydd Cyffredinol ar gyfer y Blaid Lafur ar y pryd.

Mae ymchwiliad annibynnol gan Lywodraeth Cymru, a gafodd ei gyhoeddi gan Carwyn Jones, ar hyn o bryd wedi’i atal, yn dilyn her gyfreithiol gan deulu Carl Sargeant ynglŷn â’r ffordd y mae’n cael ei gynnal.