Mae dau o uwch-swyddogion Prifysgol Abertawe – gan gynnwys yr Is-Ganghellor – wedi cael eu gwahardd o’u gwaith wrth i ymchwiliad mewnol gael ei gynnal.

Mae’r Is-ganghellor, yr Athro Richard B Davies, a deon yr Ysgol Reolaeth, yr Athro Marc Clement, ill dau wedi cael eu gwahardd, ac mae golwg360 yn deall bod dau aelod arall o staff wedi cael eu hatal o’u gwaith hefyd.

Dydy Prifysgol Abertawe ddim wedi manylu ar natur yr ymchwiliad mewnol.

“Gallwn gadarnhau bod yr Is-ganghellor, yr Athro Richard B Davies, a’r Athro Marc Clement, wedi cael eu gwahardd, wrth i ni ddisgwyl am ganlyniad ymchwiliad mewnol,” meddai llefarydd ar ran Prifysgol Abertawe.

Cafodd Richard B Davies, sydd wedi bod yn Is-Ganghellor ers 2003, ei fagu yng ngorllewin Cymru, cyn mynd ymlaen i astudio peirianneg ym Mhrifysgol Caergrawnt a derbyn gradd PhD ym Mhrifysgol Bryste.

Daw Marc Clement yn wreiddiol o Lanelli, ac ar ôl dal nifer o swyddi uwch yn y byd academaidd, cafodd ei benodi yn ddeon yr Ysgol Reolaeth yn 2015.