Mae ymgyrchwyr iaith wedi gosod sticeri ar 80 o arwyddion ffyrdd yn ardal Wrecsam, ar ôl i’r cyngor sir fethu â darparu arwyddion dwyieithog.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mae cannoedd o arwyddion ‘Give Way’ uniaith Saesneg yn sefyll yn anghyfreithlon ledled y sir. A dyna pam y mae ymgyrchwyr wedi gosod sticeri ar ddwsinau o’r arwyddion fel eu bod nhw nawr yn cynnwys y Gymraeg, ‘Ildiwch’.

Daw’r weithred hon wrth i gynghorwyr Sir Wrecsam drafod adroddiad gan Gomisiynydd y Gymraeg ddydd Mercher (Tachwedd 28), sy’n nodi methiannau’r Cyngor i godi arwyddion ffyrdd dwyieithog.

“Ers cyn i Gyngor Wrecsam gael ei ffurfio ym 1996, mae dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau yng Nghymru i osod arwyddion ffyrdd yn y Gymraeg a’r Saesneg,” meddai Aled Powell, cadeirydd Cell Wrecsam o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Ond pan symudais i fyw yn ardal Wrecsam, sylwais fod un math o arwydd yn sefyll ym mhobman heb air o Gymraeg, fel creiriau o hen oes a fu pan roedd rhai pobol yn credu mai Saesneg oedd yr unig iaith o unrhyw werth.”

‘Anwybyddu’r Gymraeg’

Dywed Cymdeithas yr Iaith ymhellach fod Cyngor Wrecsam wedi dilyn polisi o roi’r Saesneg yn gyntaf ar arwyddion ffyrdd cyn i’r safonau Cymraeg newydd gael eu cyflwyno yn 2015.

Maen nhw hefyd yn tynnu sylw at siâp yr arwyddion ffyrdd, sydd wedi effeithio ar sut mae’r Gymraeg yn cael ei darparu.

“Dyw siâp unigryw’r arwyddion hyn ddim yn caniatáu gosod y gair Cymraeg islaw’r term Saesneg, felly roedd yn rhaid i Gyngor Wrecsam wneud eithriad i’w gynllun iaith Gymraeg,” meddai Aled Powell wedyn.

“Ond yn hytrach na rhoi’r Gymraeg yn gyntaf, penderfynodd y Cyngor i beidio â rhoi’r Gymraeg o gwbwl.

“Dw i wedi ysgrifennu a gofyn i Gomisiynydd y Gymraeg, i Lywodraeth Cymru ac i Swyddfa Cymru’r lywodraeth yn San Steffan, a does dim un wedi medru cadarnhau esboniad y Cyngor.”

Ymateb Comisiynydd y Gymraeg

Dywed llefarydd ar ran y Comisiynydd: “Pan yn edrych ar beth sy’n ofynnol i’r cyngor ei wneud o dan safonau’r Gymraeg, mi ddylai unrhyw arwydd ffordd newydd neu arwydd sy’n cael ei adnewyddu fod yn ddwyieithog, gyda’r Gymraeg yn gyntaf.

“Os oes arwyddion dal yn sefyll ers cyn i’r safonau gael eu gosod, nid oes rheidrwydd ar y cyngor i’w newid.”