Mae Plaid Cymru yn datgelu cynllun economaidd newydd i Bowys heddiw (Dydd Llun, Tachwedd 26) fydd yn edrych ar y cam nesaf i economi’r rhanbarth.

Bydd y ddogfen yn cael ei lansio yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd, a bydd 32 o argymhellion gweithredu i hybu’r economi yn cael ei gyflwyno.

Mae AC Canolbarth a Gorllewin Plaid Cymru, Helen Mary Jones, yn edrych i gyflwyno cynllun i “wynebu’r nifer o heriau” sy’n wynebu Powys.

Mae’r rhain yn cynnwys diboblogaeth, economi gwan cyffredinol, a’r nifer uchel o bobol sydd mewn gwaith rhan-amser ac sy’n cael cyflogau isel.

 Amaethyddiaeth

“Un o’r sectorau hanfodol yn ein cymunedau gwledig hefyd yw amaethyddiaeth,” meddai Helen Mary Jones.

“Mae’r sector wedi wynebu pwysau anferthol yn ystod y blynyddoedd diwethaf – rhywbeth fydd yn cael ei gymhlethu ymhellach ar ôl Brexit.”

“Fel rhywun a dreuliodd fy ieuenctid ym Mhowys, rwy’n teimlo’n aml fod potensial y sir wedi cael ei ddal yn ôl.”

Un o’r argymhellion yn y ddogfen ‘Powys – Calon Cymru’ yw i Gyngor Sir Powys wneud mwy o ddefnydd o’i ystâd fferm.

“Mae gan Bowys yr ystâd fferm fwyaf sy’n eiddo i awdurdodau lleol yng Nghymru. Gyda 11,000 erw ac yn werth bron i £90m, mae’n ased sylweddol.

“Dylid ystyried yr ystâd hon fel ased gwerthfawr i Bowys ac felly dylid datblygu strategaeth economaidd glir gyda golwg ar hwyluso buddsoddiad ac i helpu busnesau amaethyddol i arallgyfeirio.”