Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth ar ôl i bedwar dyn gael eu hanafu’n ddifrifol mewn gwrthdrawiad yn Ynysmeudwy ger Pontardawe.
Cawson nhw anafiadau a fydd yn newid eu bywydau pan darodd eu cerbyd i mewn i goeden am oddeutu 12.45yp ddoe (dydd Sadwrn, Tachwedd 24).
Cafodd yr holl wasanaethau brys eu galw, ac fe fu’r ffordd ynghau yn ystod y prynhawn.
Mae’r heddlu’n awyddus i glywed gan dystion a welodd gar Rover gwyrdd ar adeg y gwrthdrawiad.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â nhw ar 101.