Cymru 20–11 De Affrica

Enillodd Cymru bedair gêm allan o bedair yng nghyfres yr hydref am y tro cyntaf erioed wrth drechu De Affrica yn y stadiwm cenedlaethol yng Nghaerdydd nos Sadwrn.

Daeth ceisiau Cymru, y ddau ohonynt, yn gynnar yn y gêm ac ymdrech amddiffynnol ddewr a oedd ei hangen wedi hynny i guro’r Springboks.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd Cymru ar dân gyda dau gais yn y chwarter awr agoriadol, y naill i Tomas Francis a’r llall i Liam Williams.

Roedd newid hwyr i’r rheng ôl wrth i Ellis Jenkins ddechrau yn lle Dan Lydiate oherwydd anaf ac roedd blaenasgellwr y Gleision yn ei chanol hi ar gyfer y cais agoriadol, yn dangos sgiliau olwr cyn rhyddhau Francis am gais rhwydd o dan y pyst.

Dilynodd yr ai gais yn fuan wedyn wrth i Williams hyrddio drosodd wedi i bas hir Gareth Anscombe ganfod y cefnwr ar yr asgell dde.

Llwyddodd Anscombe gyda’r ddau drosiad hefyd i roi pedwar pwynt ar ddeg o fantais i’r tîm cartref.

Caeodd cic gosb Handre Pollard y bwlch hwnnw hanner ffordd trwy’r hanner ac yn wir, yr ymwelwyr a oedd yn edrych orau wrth i’r hanner ddirwyn i ben.

Roedd angen ymdrech amddiffynnol nodweddiadol o ddewr a threfnus gan Gymru i’w hatal, gan gynnwys gwaith gwych gan Jenkins i ddal y bêl i fyny pan groesodd Jesse Kriel y gwyngalch. 14-3 y sgôr wrth droi.

Ail Hanner

Dechreuodd yr ail hanner fel y gorffennodd y cyntaf, gyda De Affrica’n rheoli’r tir a’r meddiant.

Ac fe ddaeth eu haeddiant wedi chwarter awr pan blymiodd Kriel drosodd yn y gornel wedi pas fflat berffaith Willie Le Roux.

Rhoddodd hynny’r ymwelwyr o fewn sgôr, a thri phwynt yn unig a oedd ynddi toc wedi’r awr yn dilyn cic gosb Elton Jantjies.

Enillodd Cymru gic gosb braidd yn ffodus ychydig funudau’n ddiweddarach ac adferodd yr eilydd faswr, Dan Biggar, y chwe phwynt o fwlch rhwng y timau.

Ymestynnodd Biggar y bwlch i naw wedi hynny gyda chic gosb arall yn dilyn rhediad da Jonathan Davies, bwlach a oedd yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth, 20-11 y sgôr terfynol.

.

Cymru

Ceisiau: Tomas Francis 10’, Liam Williams 16’

Trosiadau: Gareth Anscombe 11’, 18’

Ciciau Cosb: Dan Biggar 69’, 72’

.

De Affrica

Cais: Jesse Kriel 56’

Ciciau Cosb: Handre Pollard 20’, Elton Jantjies 62’