Denodd Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd fwy o ymwelwyr nag erioed o’r blaen, yn ôl Cyngor yr Eisteddfod sy’n cyfarfod yn Aberystwyth heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 24).

Ymhlith yr ymwelwyr hynny roedd nifer sylweddol o bobol oedd yn ymweld â’r brifwyl am y tro cyntaf erioed.

Roedd yr Eisteddfod eleni’n “torri tir newydd”, yn ôl cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Ashok Ahir.

“Mae llawer o sôn wedi bod am Eisteddfod ‘wahanol’ ac ‘arbrofol’ Caerdydd, ond roedd yr ŵyl eleni’n torri tir newydd mewn nifer fawr o ffyrdd eraill,” meddai.

“Drwy gael Maes agored, roedd yn groesawgar ac yn gynhwysol – roedd hon yn ŵyl oedd yn perthyn i bawb o Gaerdydd a Chymru, ac fe welwyd hyn yn glir yn ystod yr wythnos.

“Roedd crwydro’r Maes yn brofiad gwych.  Wrth gwrs, roedd y Gymraeg i’w chlywed yn amlwg, ond roedd ieithoedd o bob rhan o’r byd i’w clywed hefyd, ac roedd hyn yn wirioneddol braf ac yn dangos bod diwylliant Cymraeg yn hygyrch ac yn agored i bawb.

“Roedd hi’n Eisteddfod a greodd fwy o argraff arna i a miloedd o bobl eraill na’r un ŵyl o’i blaen.”

‘Cyflwyno’r Gymraeg i gynulleidfa newydd’

Yn ôl Ashok Ahir, fe lwyddodd yr Eisteddfod yn ei nod o gyflwyno’r iaith Gymraeg i gynulleidfa newydd, ac fe fydd hynny’n allweddol i newid agweddau tuag at yr iaith yn y dyfodol, meddai.

“Dyma sut mae annog pobol i fynd ati i ddysgu a defnyddio’r iaith ym mhob agwedd o’u bywyd.

“Yn syml, dyma sut mae dangos i bawb fod y Gymraeg yn iaith ddeinamig, naturiol a pherthnasol.

“A dyma fydd gwaddol mawr Eisteddfod Caerdydd.”

Wrth “ddiolch i bawb am eu holl waith caled”, dywed Ashok Ahir y bu’n “fraint arwain tîm mor frwdfrydig, egnïol a llawn syniadau, ac roedd hefyd yn braf gweld cynifer o bobol ifanc yn arwain ar y gwaith codi arian ar draws y ddinas”.

“Mae ein dyled yn fawr i bawb a fu’n rhan o’r tîm dros y ddwy flynedd ddiwethaf,” ychwanega.

Costau diogelwch

O ganlyniad i’r Eisteddfod ddi-faes, roedd cost ychwanegol o gynnal y brifwyl eleni, ond fe fydd y gost honno’n cael ei hysgwyddo gan yr Eisteddfod.

Mae hyn yn golygu diffyg ariannol gweithredol o £290,139 eleni.

“Ein gweledigaeth a’n penderfyniad ni oedd cynnal gŵyl agored, ddi-ffiniau a chynhwysol,” meddai prif weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses.

“Drwy gynnig mynediad i ran helaeth o’r Maes yn rhad ac am ddim, roedd eleni’n fuddsoddiad strategol yn yr iaith gennym ni, ac fe ddaeth yr ymwelwyr cyfarwydd a newydd i gefnogi.

“Yn ôl rhai amcangyfrifon, daeth hanner miliwn o bobl i’r Maes yn ystod yr wythnos, sydd tua 350,000 yn fwy na’r niferoedd sy’n arfer ymweld.

“Felly, am gost o lai na £1 ychwanegol i’r Eisteddfod am bob ymwelydd newydd, llwyddwyd i ddenu cannoedd o filoedd o bobl i brofi gŵyl sy’n ddathliad eclectig a chyfoes o’n hiaith a’n diwylliant.”

‘Nid ar chwarae bach mae trefnu gŵyl agored’

“Roedd cynnal Eisteddfod arbrofol yn heriol ac yn risg,” meddai.

“Nid ar chwarae bach mae trefnu gŵyl agored fel hyn, ac roedd yn wahanol iawn i’n profiad ni fel trefnwyr fel rheol.

“Wrth gwrs, roedd gallu defnyddio adeiladau parhaol eiconig fel y Senedd, Pierhead a Chanolfan Mileniwm Cymru yn wych, ond roedd creu Maes Eisteddfod o amgylch yr adeiladau hyn yn waith cymhleth a hir.  Ond braf yw edrych nôl erbyn hyn a gweld cymaint oedd y llwyddiant.

“Doedd y Gymraeg ddim yn rhwystr o gwbl, ond yn hytrach, roedd yn gyfle i werthu’r iaith, ein diwylliant a’n gwlad ar eu gorau.

“Mae hwn yn fuddsoddiad sydd wedi, ac sy’n parhau i newid agweddau pobl y brifddinas a thu hwnt tuag at yr iaith.  Ac fe fyddwn yn falch o fod wedi gallu cynnal Eisteddfod arbrofol a gwahanol yn y Bae am byth oherwydd hyn.”