Mae dyn 26 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio Mohammed Megherbi yng Nghaerdydd.
Bydd Kane Burns, 26 oed o Lanedeyrn, yn mynd gerbron ynadon yng Nghaerdydd heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 24).
Aeth Mohammed Megherbi, sy’n wreiddiol o Algeria, ar goll o ardal y Rhath ar Hydref 9.
Roedd ganddo gysylltiadau ag ardal gogledd-orllewin Llundain hefyd.
Cafodd Kane Burns ei arestio ddydd Mawrth (Tachwedd 20), wrth i’r heddlu chwilio eiddo yn Llanedeyrn a’r ardal gyfagos.