Mae dau garcharor wedi marw yng Ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr o fewn llai nag wythnos.

Yn ôl llefarydd y carchar, yr unig un yng Nghymru sy’n cael ei redeg gan gwmni G4S, nid oes unrhyw gysylltiad rhwng y ddwy farwolaeth a ddigwyddodd ar ddau ddiwrnod gwahanol.

Nid yw’r ddau garcharor fu farw ar nos Sul, Tachwedd 18, a bore dydd Iau, Tachwedd 22, wedi eu henwi.

Ac nid yw amodau’r marwolaethau yn hysbys, ond mae’r Ombwdsmon Carchardai a Gwasanaeth Prawf yn cynnal ymchwiliad annibynnol.

Mae 1,336 o ddynion ac oedolion ifanc dan glo yn y carchar categori B yn y Parc.

Eleni fe gafodd ei ddethol yr 11fed carchar gwaethaf o blith 117 o garchardai gwledydd Prydain.