Mae cynghorydd ym Mhorthmadog yn dweud bod y “sgrifen ar y wal er wythnosau” wrth i 50 o weithwyr golli eu swyddi gyda chwmni sy’n adeiladu cabanau gwyliau o fewn y dref.

Mae Sovereign Park and Lesiure Homes Limited o Coventry wedi bod yn nwylo’r gweinyddwyr ers dechrau mis Tachwedd.

Yn ôl y Cynghorydd Selwyn Griffiths, mae’r cwmni wedi wynebu “trafferthion ariannol” ers wythnosau, gyda gweithwyr wedi gorfod cael lleihad yn eu horiau ers tro.

“Mae’r swyddi fwy neu lai wedi mynd,” meddai Selwyn Griffiths wrth golwg360.

“Mae pawb wedi cael eu rhoi ar ddiwrnod neu hanner diwrnod ers wythnosau. Diwedd y peth ydy hyn.

“Mae’n ergyd fawr i’r dref. Mae colli 50 swydd fel hyn yn aruthrol, ac yn ergyd i bobol cyn Nadolig a phob dim.

“Mae’n ei wneud o’n waeth byth.”

Mae John Lowe o gwmni diddymwyr, FRP Advisory, wedi cadarnhau bod y “mwyafrif” o’r swyddi sydd wedi’u colli ym Mhorthmadog.