Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd mwy o arian ar gael i gynghorau sir y flwyddyn nesaf.
Yr addewid yw na fydd yr un cyngor sir yn derbyn cwtogiad o fwy na 0.5%.
Yn wreiddiol roedd cynghorau sir ym Môn, Gwynedd, Conwy, Powys, Sir y Fflint a Sir Fynwy yn wynebu toriadau o 1%.
Bydd y cynghorau sir yn derbyn £14.2 miliwn yn ychwanegol, a hynny yn dilyn cwyno mawr am y setliad ariannol gwreiddiol.
Ac er yr arian ychwanegol, mae arweinwyr y cynghorau yn mynnu eu bod yn parhau i wynebu sefyllfa “heriol”.