Mae Aelod Seneddol Sir Drefaldwyn, Glyn Davies wedi datgan ei gefnogaeth i Theresa May tros ei chynlluniau ar gyfer Brexit.

Mae Prif Weinidog Prydain yn wynebu’r posibilrwydd o bleidlais o ddiffyg hyder ar ôl i ddegau o aelodau seneddol gyflwyno llythyrau.

Ond yn ôl Glyn Davies, mae’r rhai sy’n ei gwrthwynebu yn “hunanfaldodus a hunanorchfygol heb fod yn gweithredu er lles y genedl”.

Does dim digon o lythyrau wedi’u cyflwyno hyd yn hyn i orfodi pleidlais.

Hollti barn

“Rwy’n derbyn bod y farn wedi’i hollti o fewn y Llywodraeth, yr wrthblaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar siâp perthynas y DU â’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol,” meddai Glyn Davies.

“Dw i erioed wedi gweld y fath amser ansicr mewn materion cyhoeddus yn fy myw. Pa un a wnaethon ni bleidleisio i aros neu i adael, mae’n hanfodol ein bod yn bwyllog ac yn ystyried y camau nesaf yn ofalus dros ben.

“Mae awgrymu y dylai’r Blaid Geidwadol geisio newid ein Prif Weinidog ar yr amser hwn yn annoeth, ac yn ymylu ar fod yn anghyfrifol.

“Rwy’n derbyn y bydd yr wrthblaid yn herio’r Llywodraeth ond dros yr wythnosau diwethaf, fe fu beirniadaeth gyson ar ein Prif Weinidog gan lond dwrn o aelodau seneddol Ceidwadol, yn tanseilio’n ddifrifol ei hymdrechion i ddiogelu cytundeb ymadael sy’n gweithio i’r DU a’r Undeb Ewropeaidd.

“Maen nhw wedi bod yn hunanfaldodus a hunanorchfygol heb fod yn gweithredu er lles y genedl.”

Ychwanegodd nad oes gan y sawl sy’n ei gwrthwynebu “ddylanwad” fel yr oedden nhw’n ei gredu.

‘Ddim yn hapus… ond gwell na’r disgwyl’

Mae Glyn Davies yn cyfaddef nad yw’n hapus â’r cytundeb, ond ei fod yn gwell na’r disgwyl.

“Mae’r Prif Weinidog yn gwybod fod ganddi fy nghefnogaeth lawn.

“Rydym yn ffodus fod gennym y fath arweinydd ymroddgar a phenderfynol ar yr adeg hanfodol hon.”